Asesiadau Anghenion Dysgu

Gall myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol fel dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia, yn ogystal ag awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) wynebu llawer o heriau wrth astudio.

Bydd asesiad anghenion dysgu yn helpu i nodi offer, strategaethau a chefnogaeth effeithiol trwy asesiad trylwyr gan ddefnyddio offer a gwybodaeth gadarn. Trwy weithio gyda’r myfyriwr, bydd yr aseswr yn esbonio ac yn arddangos ystod o offer a strategaethau cefnogi, gan gynnwys hyfforddi yn ogystal â meddalwedd neu offer technoleg gynorthwyol. Gall rhai o’r rhain fod a thâl iddynt, er bod rhai strategaethau technolegol i’w cael yn rhad ac am ddim.

Bydd adroddiad manwl yn cael ei lunio, yn disgrifio’r strategaethau a argymhellir a sut y bydd y rhain o fudd i ddysgu’r myfyriwr. Gall Cymorth Addysg hefyd ddarparu hyfforddiant ar sut i ddefnyddio meddalwedd a awgrymir, a darparu unrhyw hyfforddiant a fyddai’n cynorthwyo’r myfyriwr i ddatblygu strategaethau sgiliau astudio effeithiol.

Cysylltwch i ddarganfod mwy.