Gall Cymorth Addysg ddarparu gweithdai lles wedi’u teilwra ar gyfer gweithleoedd, sefydliadau ac ar gyfer grwpiau penodol.
Bydd ein gweithdai yn canolbwyntio ar nodi beth yw lles, materion sy’n effeithio ar les a sut y gallwn wella ein lles.
Nod ein gweithdai lles yw rhoi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar fynychwyr i reoli straen bywyd, gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a datblygu gwytnwch ac agwedd gadarnhaol. Rydym yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu a thyfu trwy awyrgylch ddiogel, empathig a chefnogol.
Os oes gennych chi faes lles penodol yr hoffech chi ganolbwyntio arno yn ystod gweithdy, rhowch wybod i ni a gallwn greu sesiwn bwrpasol i chi. Gellir darparu sesiynau yn bersonol ac o bell i weddu i’ch anghenion.
Byddwn hefyd yn cynnal gweithdai agored yn rheolaidd.