Gweithdai Rheoli Straen

Gyda gofynion y byd sydd ohoni, mae’n hawdd gweld pam mae cynnydd sylweddol mewn adroddiadau o straen. Er y gall straen fod yn normal a hyd yn oed yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd, megis wrth geisio bodloni terfyn amser, gall straen tymor hwy fod yn niweidiol i’n hiechyd a rhannau eraill o’n bywydau. Mae’n achos cynyddol o absenoldeb o’r gweithle ac addysg.

Gydag adroddiadau’n awgrymu bod tua 90% o boblogaeth oedolion y DU wedi profi lefelau uchel o straen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Mental Health UK, 2024) mae wedi dod yn hynod bwysig datblygu strategaethau i reoli straen yn effeithiol.

Nod ein gweithdai rheoli straen yw rhoi offer a strategaethau i gyfranogwyr i leihau straen, rheoli achosion straen yn well a helpu i ddatblygu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.