Gweithdai Sgiliau Swyddogaethau Gweithredol

Beth yw swyddogaethau gweithredol (SG)? Pam eu bod yn bwysig ar gyfer addysg, gwaith a bywyd bob dydd?

Darganfyddwch trwy ein cyrsiau sgiliau swyddogaethau gweithredol.

Fyddwch chi weithiau yn meddwl tybed pam fod eich aelod staff cymwys yn ei chael hi’n anodd rheoli ei amser yn effeithiol? Neu pam y byddwch wastad yn colli eitemau pwysig? Efallai bod eich plentyn yn ei chael hi’n anodd trefnu ei waith ysgol neu oedi pan fydd ganddo lawer o waith cwrs i’w gwblhau.

Efallai y bydd ganddynt heriau swyddogaethau gweithredol. Er bod unigolion niwroamrywiol yn debygol iawn o wynebu heriau SG, bydd gan bawb set unigryw o sgiliau SG a bydd ganddynt gryfderau a gwendidau mewn gwahanol feysydd.

Mae ein cwrs yn darparu trosolwg o beth yw’r sgiliau hyn, pam fod pawb yn debygol o fod â gwendidau yn rhai ohonynt a beth allwn ni ei wneud i gefnogi ein hunain a’r rhai o’n cwmpas all fod â heriau.

Trwy gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sgiliau SG, mae Cymorth Addysg yn anelu at gynyddu dealltwriaeth a chefnogaeth i’r rhai a all ganfod meysydd penodol yn her.

Gallwn ddarparu hyfforddiant ar gyfer gweithleoedd, lleoliadau addysgol a gallwn hefyd gynnal gweithdai rhieni.

Cysylltwch i ddarganfod mwy, neu i gofrestru eich diddordeb i gael gwybodaeth am weithdai sydd i ddod.